DEUNYDDIAU
Polion a Raeliau Pren - Mae’r holl bolion pren yr ydym yn eu defnyddio wedi eu trin a’u sychu i’r safon uchaf. Ymdrechwn i ddefnyddio polion FSC bob tro y mae’n bosibl sydd yn bwysig iawn i ni fel cwmni gan fod gwneud y gorau i’n hamgylchedd yn un o’n blaenoriaethau. Rydym yn defnyddio polion pren meddal neu bren caled yn ôl gofynnion y cwsmer.
Polion Tynnu – Ceir sawl opsiwn gwahanol wrth ddewis pyst tynnu hefyd megis pyst wedi eu tanaleiddio, pyst wedi eu creosotio , pyst ffôn neu byst tynnu pren caled casten.
Weiran – Rydym yn argymell ein cwsmeriaid i ddefnyddio weiran “high tensile” gan fod y weiran ei hun yn gryfach, nid yw’n rhoi ac fod angen llai o bolion i’w chynnal. Mae yna opsiynau eraill i’r cwsmeriaid hefyd. Yn aml bydd llinell neu ddwy o weiran bigog neu rael yn cael ei roi ar ran uchaf y ffens.
Giatiau metal wedi eu galfaneiddio sydd yn boblogaidd neu giatiau bren meddal neu bren caled yn ôl gofynnion y cwsmer a natur y gwaith a’r lleoliad.
Mae ein cyflenwyr i gyd yn lleol i Ogledd Cymru
|